Canolfan Gelfyddydol yr Eglwys Norwyaidd
Harbour Drive
Bae Caerdydd
CF10 4PA
Ffôn: 029 20 484599
Ffacs: 029 20 495122
E-bost: norwegianchurch@cardiff.gov.uk
Sicrhau bod Caerdydd yn brifddinas Ewropeaidd o’r radd flaenaf sy’n rhoi ansawdd bywyd rhagorol ac sy’n ganolog i ranbarth dinesig cystadleuol.
Gweledigaeth Economaidd Caerdydd:
Sicrhau bod y brifddinas yn un gystadleuol yn rhyngwladol ac yn ddinas gynhwysol, fywiog a ffyniannus i fyw a gweithio ynddi, gyda gweithlu medrus a chreadigol ac amgylchedd busnes iach.
Gweledigaeth Gymdeithasol Caerdydd:
Creu cymuned ddiogel ac iach sy'n dysgu, yn dathlu amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfleoedd gwirioneddol i bawb.
Gweledigaeth Amgylcheddol Caerdydd:
Sicrhau bod gan Gaerdydd amgylchedd glân, diogel ac atyniadol ble gall pobl fwynhau a gofalu am y byd o'u hamgylch ar lefel leol a byd-eang.
Cysylltiadau Caerdydd:
Sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel yn cael eu darparu mewn ffordd gydlynol ac effeithlon, gyda’r dinasyddion yn ganolog i’r broses o wneud penderfyniadau.
Bydd Gweledigaeth Caerdydd yn cael ei chyflawni drwy fframwaith o bartneriaethau strategol, sy’n cynnwys:
Drwy ymrwymiad i feithrin cysylltiadau ac ymgynghori, bydd dyheadau’r ddinas yn y tymor hir hefyd yn seiliedig ar farn a blaenoriaethau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd.
Y brif strategaeth sy’n cwmpasu Gweledigaeth Caerdydd yn y tymor hir yw’r Strategaeth Gymunedol Prifddinas Falch
ID: 358 Adolygwyd: 18/7/2007
Rhoi sylwadau am y dudalen hon